I:                           Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Wrth:                     Clerc y Pwyllgor

 

Dyddiad:               27 Mehefin 2011

 

Cyfeirnod y papur: CLA(4)-02-11(p1)

 

Rôl y Pwyllgor a dulliau o weithio yn ystod y Pedwerydd Cynulliad

 

Diben

 

1.       Mae’r papur hwn yn nodi rôl a chylch gwaith y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol. Mae’n egluro:

 

·         y swyddogaethau y mae Rheolau Sefydlog y Cynulliad yn ei gwneud yn ofynnol i’r Pwyllgor ymgymryd â hwy; a

·         swyddogaethau eraill, dewisol y gall y Pwyllgor ymgymryd â hwy os yw’n dewis gwneud hynny.

 

2.       Mae’r papur hwn hefyd yn nodi’r trefniadau arfaethedig ar gyfer craffu ar is-ddeddfwriaeth ac yn gwahodd Aelodau i fynegi eu barn ynghylch beth fyddai’r ffordd orau i’r Pwyllgor ymgymryd â’i swyddogaethau dewisol.

 

Cylch gwaith y Pwyllgor

 

3.       Cylch gwaith y Pwyllgor fel y’i cytunwyd yn y Cyfarfod Llawn yw:

 

… cyflawni swyddogaethau’r pwyllgor cyfrifol a nodir yn Rheol Sefydlog 21, ac ystyried unrhyw fater cyfansoddiadol neu lywodraethol arall o fewn cymhwysedd y Cynulliad neu Weinidogion Cymru, neu mewn perthynas â’r rheini.

 

4.       Mae’r cylch gwaith hwn yn cynnwys swyddogaethau dewisol a rhai nad ydynt yn ddewisol. Trafodir y rhain ymhellach isod.

 

Dyletswyddau nad ydynt yn rhai dewisol

 

5.       Mae Rheol Sefydlog 21.2 yn gosod dyletswydd ar y Pwyllgor i ystyried  yr holl is-ddeddfwriaeth berthnasol a osodwyd gan y Llywodraeth, ei phrofi yn erbyn y seiliau penodol a restrwyd yn y Rheolau Sefydlog, ac os bydd gan y Pwyllgor unrhyw bryderon, cyflwyno adroddiad arnynt i’r Cynulliad o fewn 20 niwrnod. Nodir y Rheol Sefydlog llawn a’r seiliau adrodd penodol yn Atodiad A i’r papur hwn. 

 

6.       Yn gyffredinol, mae’r seiliau ar gyfer cyflwyno adroddiad o dan Reol Sefydlog 21.2 yn faterion a allai godi amheuaeth ynghylch cyfreithlondeb  neu gywirdeb cyfreithiol y ddeddfwriaeth sydd dan sylw. Am y rheswm hwn, cyfeirir atynt yn aml fel materion technegol, er eu bod yn aml yn ymwneud â materion o egwyddor gyfreithiol ynghyd â materion drafftio mwy cyffredin.  Dyma waith bara menyn y Pwyllgor.

 

Swyddogaethau dewisol

 

7.       Hefyd, mae gan y Pwyllgor nifer o swyddogaethau dewisol. Maent fel a ganlyn:

 

Rheol Sefydlog 21.3

 

8.       Caiff y Pwyllgor gyflwyno adroddiad ar nifer o faterion eraill sy’n ymwneud ag Offerynnau Statudol unigol. Cyfeirir at yr adroddiadau hyn fel  “adroddiadau ar rinweddau”.  Gan amlaf, cyflwynir adroddiadau ar ddarnau o is-ddeddfwriaeth o dan y Rheol Sefydlog hon gan fod y Pwyllgor yn credu:

 

“…ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn

codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb

i’r Cynulliad.” 

 

9.       Mae hyn yn rhoi modd i’r Pwyllgor dynnu sylw at is-ddeddfwriaeth nad yw’n achosi pryder ar seiliau technegol ond sy’n codi materion eraill y mae’r Pwyllgor yn credu y dylid tynnu sylw’r Cynulliad atynt. 

 

10.     Nid oes rheolau pendant ynghylch beth y gallai’r materion hyn fod. Gall fod mor syml â nodi bod mater yn wleidyddol gynhennus neu’n wleidyddol arwyddocaol. Fel arall, gall fod oherwydd ei fod yn codi materion sy’n ymwneud â hawliau unigolion neu, waeth pa mor ganmoladwy yw ei bwriadon polisi, nad yw is-ddeddfwriaeth yn gweithredu’r bwriadon hyn yn y ffordd a honnwyd. Mae hyn hefyd wedi cael ei ddefnyddio i dynnu sylw’r Cynulliad at y ffaith bod pŵer galluogi penodol wedi cael ei ddefnyddio am y tro cyntaf.

 

Rheol Sefydlog 21.7

 

11.     Mae Rheol Sefydlog 21.7 yn caniatáu i’r Pwyllgor ystyried ystod o faterion a chyflwyno adroddiadau arnynt, gan gynnwys pwerau is-ddeddfwriaethol arfaethedig ym Miliau’r Cynulliad a Deddfau Seneddol y DU a deddfwriaeth ddrafft y mae’r Llywodraeth yn ymgynghori arnynt. Mae hefyd yn caniatáu i’r Pwyllgor ystyried “unrhyw fater deddfwriaethol gyffredinol ei natur sy’n ymwneud â chymhwysedd y Cynulliad neu gymhwysedd Gweinidogion Cymru” a chyflwyno adroddiad arno. Mae’r pŵer penodol hwn yn rhoi’r rhyddid i’r Pwyllgor ystyried materion cyfansoddiadol a deddfwriaethol a chynnal ymchwiliadau i’r materion hyn os yw’n dymuno gwneud hynny.

 

Rheolau Sefydlog 21.8 – 21.11

 

12.     Mae hon yn swyddogaeth newydd yn y Rheolau Sefydlog. Mae’n caniatáu i’r Pwyllgor ystyried:

“…deddfwriaeth ddrafft yr Undeb Ewropeaidd sy’n ymwneud â materion o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad neu â swyddogaethau Gweinidogion Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol er mwyn ystyried a yw’n cydymffurfio ag egwyddor sybsidiaredd.”

 

13.     Os bydd y Pwyllgor yn pryderu ynghylch a gydymffurfir ag egwyddor sybsidiaredd, gall ysgrifennu at y pwyllgorau seneddol sy’n ymdrin â’r mater hwn er mwyn i’r pwyllgoau hynny gynnwys y pryderon hynny mewn barn resymedig ar gyfer awdurdodau perthnasol yr Undeb Ewropeaidd. 

 

14.     Mae Rheol Sefydlog 21.11 yn caniatáu i’r Pwyllgor ddirprwyo ei swyddogaethau o dan y Rheol Sefydlog hon i Gadeirydd y Pwyllgor, er mwyn ei alluogi i weithredu ar ei ran yn ystod toriad y Cynulliad. Mae hyn yn arbennig o bwysig yn ystod toriad yr haf oherwydd y cyfyngiadau amser y cyfeirir atynt isod. Bydd gofyn bod Cadeirydd y Pwyllgor yn cyflwyno adroddiad i’r Pwyllgor cyn gynted â phosibl ar ôl hynny.

 

15.     Bydd y Pwyllgor am ystyried a yw am arfer y disgresiwn o ddirprwyo ei swyddogaethau i Gadeirydd y Pwyllgor yn ystod wythnosau pan na fydd y Cynulliad yn eistedd.

 

Swyddogaethau eraill

 

16.     Ynghyd â’r swyddogaethau yn Rheol Sefydlog 21, mae gan y Pwyllgor hefyd gylch gwaith ehangach i “ystyried unrhyw fater cyfansoddiadol neu lywodraethol arall o fewn cymhwysedd y Cynulliad neu Weinidogion Cymru, neu mewn perthynas â’r rheini.”  Gallai hyn gynnwys swyddogaethau penodol y Gweinidogion, fel cyfrifoldebau Prif Weinidog Cymru dros berthnasau â gweddill y DU ac Ewrop ond yn caniatáu i’r Pwyllgor rhyddid eang i ystyried materion trawsbynciol sydd â goblygiadau cyfansoddiadol.

 

17.     Hefyd, gall fod yn ofynnol bod y Pwyllgor, o bryd i’w gilydd, yn ystyried Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol y caiff eu cyfeirio ato gan y Pwyllgor Busnes o dan Reol Sefydlog 29.4

 

 

Trefniadau Pwyllgor ar gyfer ystyried offerynnau statudol

 

18.     Rheolir ystyriaeth y Pwyllgor o offerynnau statudol o dan Reol Sefydlog 21.3. Fodd bynnag, mae’r nifer helaeth o offerynnau statudol y mae’n rhaid i’r Pwyllgor eu hystyried (bron i 600 yn y Trydydd Cynulliad) ynghyd â’r amser cyfyngedig sydd ar gael i wneud hynny (o fewn 20 diwrnod o’r dyddiad y cafodd ei osod) yn golygu, yn gyffredinol, bod yn rhaid i’r Pwyllgor gyfarfod bob wythnos pan fo’r Cynulliad yn eistedd.

 

19.     Bydd Cynghorwyr Cyfreithiol y Pwyllgor yn edrych ar bob offeryn statudol ac yn ystyried a yw’n codi unrhyw faterion o bryder o dan Reol Sefydlog 21.2. Os bydd unrhyw faterion yn codi, bydd y cynghorwyr cyfreithiol yn paratoi adroddiad drafft i’r Pwyllgor ac ar yr un pryd yn gwahodd Llywodraeth Cymru i gyflwyno’i sylwadau. Rhoddir yr adroddiad drafft ac ymateb y Llywodraeth ar agenda’r cyfarfod nesaf i’w ystyried gan y Pwyllgor. Bydd Aelodau’r Pwyllgor yn cael copïau o’r adroddiad drafft, yr Offeryn Statudol a’r Memorandwm Esboniadol sy’n cyd-fynd ag ef fel rhan o bapurau’r cyfarfod.   

 

20.     Mae ystyried materion sy’n gysylltiedig â “rhinweddau” o dan Reol Sefydlog 21.3 yn dilyn proses debyg ond cyfochrog. Ystyrir yr offerynnau gan Glerc y Pwyllgor, y cynghorwyr cyfreithiol neu’r staff ymchwil. Os bydd unrhyw faterion yn codi, darperir adroddiad drafft i’w ystyried gan y Pwyllgor yn y cyfarfod nesaf. Fodd bynnag, ni fydd y Llywodraeth yn cael ei gwahodd i gyflwyno sylwadau ar adroddiadau rhinweddau fel arfer. Gellir gwneud hynny os bydd yr adroddiad “rhinweddau” yn codi mater technegol, fel gweithredu deddfwriaeth yr UE mewn ffordd amhriodol, er enghraifft.

 

21.     Rhestrir unrhyw offerynnau nad oes pwyntiau adrodd yn codi mewn perthynas â hwy ar agenda’r Pwyllgor, a darperir linc i’r offeryn ar gyfer yr Aelodau. Fodd bynnag, ni ddarperir yr offerynnau eu hunain fel papurau pwyllgor fel arfer.

 

22.     Yn  gyffredinol, caiff yr agenda ar gyfer y rhan hwn o’r cyfarfod ei rannu’n ddau:

 

·         Is-ddeddfwriaeth nad oes pwyntiau adrodd yn codi mewn perthynas â  hi o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

·         Is-ddeddfwriaeth y dylid cyflwyno adroddiad arni i’r Cynulliad o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

 

Caiff y pynciau hyn eu rhannu’n ddau is-bwnc:

 

·         Is-ddeddfwriaeth penderfyniad negyddol;

·         Is-ddeddfwriaeth penderfyniad cadarnhaol.

 

23.     Ar ôl i’r Pwyllgor gymeradwyo adroddiad ar Offerynnau Statudol, caiff ei osod gerbron y Cynulliad fel rhan o adroddiad y pwyllgor. Yn achos adroddiadau ar rinweddau (mae llai ohonynt yn cael eu paratoi), bydd Clerc y Pwyllgor hefyd yn anfon copïau at holl Aelodau’r Cynulliad yn uniongyrchol er gwybodaeth a chânt eu cynnwys ar agenda’r Cyfarfod Llawn os bwriedir cynnal dadl ar yr offeryn. Hefyd, efallai bydd Cadeirydd y Pwyllgor yn ysgrifennu at y Gweinidog cyfrifol gan ofyn am ei farn ar unrhyw faterion pellach a godwyd gan y Pwyllgor wrth iddo drafod offeryn.

 

Beth sy’n digwydd ar ôl i’r Pwyllgor drafod offeryn statudol?

 

24.     Ar ôl i’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad, bydd ei rôl o drafod offerynnau statudol o dan y Rheolau Sefydlog yn dod i ben. Fodd bynnag, pan gaiff offeryn ei drafod yn y Cyfarfod Llawn (oherwydd bod Aelod wedi cyflwyno cynnig i’w ddirymu neu oherwydd bod angen ei wneud drwy benderfyniad cadarnhaol gan y Cynulliad), mae’n arferol bod Cadeirydd y Pwyllgor yn siarad yn y ddadl i dynnu sylw’r Cynulliad at adroddiad y Pwyllgor.

 

Trefniadau gwaith mewn perthynas â phwerau’r Pwyllgor o dan Reol Sefydlog 21.7

 

25.     Mae gwaith y Pwyllgor o dan Reol Sefydlog 21.7 yn ddewisol ac, yn rhannol seiliedig ar alw. Ynghyd â phwerau pellach mewn perthynas â chraffu ar rai mathau penodol o is-ddeddfwriaeth, y pwerau mwyaf nodedig y mae’n rhoi i’r Pwyllgor yw’r rhai sy’n ei ganiatáu i:

 

·         graffu ar ddarpariaethau arfaethedig sy’n gysylltiedig ag                    is-ddeddfwriaeth ym Miliau’r Cynulliad a Biliau Seneddol – RhS21.7(ii); ac

·         edrych ar “unrhyw fater deddfwriaethol gyffredinol ei natur sy’n ymwneud â chymhwysedd y Cynulliad neu gymhwysedd Gweinidogion

Cymru.” - RhS21.7(v).

 

Is-ddeddfwriaeth o fewn Biliau’r Cynulliad a Biliau Seneddol (RhS21.7ii)

 

26.     Roedd Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol y Trydydd Cynulliad yn craffu ar y darpariaethau is-ddeddfwriaeth ym mhob un o Fesurau’r Cynulliad ac yn cyflwyno adroddiadau arnynt. Wrth wneud hynny, roedd fel arfer yn cymryd tystiolaeth lafar ac ysgrifenedig gan y Gweinidog a oedd yn gyfrifol am y Mesur ond, yn gyffredinol, nid oedd yn cymryd tystiolaeth gan eraill. Ystyriwyd mai uchelfraint y pwyllgor deddfwriaeth a oedd yn gyfrifol am graffu ar y Mesur oedd hon. Gan fod gan y Pedwerydd Cynulliad fwy o gymhwysedd deddfwriaethol o lawer na’r Trydydd Cynulliad, ymddengys yn debygol y bydd yr agwedd hon ar waith y Pwyllgor yn cynyddu.

 

27.     O bryd i’w gilydd, roedd y Pwyllgor hefyd yn trafod Biliau Senedd y DU a oedd yn effeithio ar bwerau’r Cynulliad neu Weinidogion Cymru neu a oedd â goblygiadau penodol i Gymru. Fodd bynnag, roedd anawsterau ymarferol wrth geisio trafod y Biliau hyn (o fewn amserlen Seneddol dynn iawn, fel arfer) a chyflwyno adroddiadau i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU mewn amser i gael cyfle rhesymol i ddylanwadu ar gynnwys y Bil. Mae pwerau newydd y Cynulliad yn y Pedwerydd Cynulliad yn awgrymu ei bod yn debygol y bydd llai i’r Pwyllgor ei ystyried yn y maes hwn nag yn y Trydydd Cynulliad.

 

28.     Bydd y Pwyllgor am ystyried ei ddull cyffredinol o graffu ar bwerau is-ddeddfwriaeth arfaethedig mewn Biliau’r Cynulliad a Biliau’r DU.

 

Pŵer i ystyried materion deddfwriaethol cyffredinol eu natur - RhS21.7(v)

 

29.     Mae angen ystyried y pŵer hwn, ynghyd â chylch gwaith y Pwyllgor o ystyried materion cyfansoddiadol a deddfwriaethol. Maent yn rhoi rhyddid eang i’r Pwyllgor ystyried materion cyfansoddiadol a deddfwriaethol a chynnal ymholiadau i’r materion hyn os yw’n dymuno gwneud hynny. Cynhaliodd y Pwyllgor blaenorol nifer o ymchwiliadau tebyg ac rydym yn rhagweld y bydd y Pwyllgor newydd am wneud hynny hefyd maes o law. 

 

30.     Bydd y Pwyllgor am ystyried ei ddull o ymdrin ag ymholiadau’r Pwyllgor yn y dyfodol. Mae nifer o ffynonellau posibl o syniadau ar gyfer gwaith craffu, gan gynnwys:

 

·         awgrymiadau’r Aelodau sy’n seiliedig ar ei phrofiadau a diddordebau gwleidyddol a phersonol;

·         awgrymiadau sy’n seiliedig ar ddadansoddiad o faterion o bryder sy’n dod i’r amlwg (gan gynnwys deddfwriaeth berthnasol ac ymrwymiadau maniffesto) a ganfuwyd gan y Gwasanaeth Ymchwil, fel arfer;

·         awgrymiadau sy’n seiliedig ar faterion a godwyd yn ystod trafodion y Cynulliad a’i bwyllgorau (gan gynnwys y broses deisebau cyhoeddus, neu o ganlyniad i benderfyniad yn y Cyfarfod Llawn;

·         gofyn am syniadau gan randdeiliaid neu grwpiau sydd â diddordeb yng ngwaith y Pwyllgor.

 

31.     Mae’r Gwasanaeth Ymchwil wedi llunio rhestr o bynciau posibl y gellid cynnal ymchwiliad mewn perthynas ag hwy i’w hystyried gan y Pwyllgor. Mae hon wedi cael ei gylchredeg i Aelodau'r Pwyllgor ar wahân. Hefyd, efallai fydd y Pwyllgor am ystyried comisiynu gwaith pellach gan Wasanaeth Ymchwil y Cynulliad ar feysydd posibl y gellid ymchwilio iddynt.

 

Trefniadau gweithio mewn perthynas â phwerau’r Pwyllgor o dan Reol Sefydlog 21.8

 

32.     Bydd y Pwyllgor yn ystyried materion sy’n ymwneud â sybsidiaredd, sef rôl yr oedd y Pwyllgor Materion Ewropeaidd ac Allanol yn ymgymryd ag ef yn y Trydydd Cynulliad. Mae’n deillio o brotocol i Gytuniad Lisbon sy’n cyfeirio’n benodol at rôl deddfwrfeydd ‘rhanbarthol’. Mae Erthygl 6 o’r Ail Brotocol i Gytuniad Lisbon yn datgan: “ It will be for each national Parliament or each chamber of a national Parliament to consult, where appropriate, regional parliaments with legislative powers.”

 

33.     Anfonir copïau o’r Memoranda Esboniadol mewn perthynas â deddfwriaeth Ewropeaidd drafft at staff y Cynulliad gan staff cyfatebol yn San Steffan sy’n cynghori pwyllgorau Ewropeaidd dau Dŷ Senedd y DU a gan Lywodraeth Cymru. Bydd staff cyfreithiol ac ymchwil y Cynulliad yn eu hadolygu ac yn tynnu sylw’r Pwyllgor at faterion y bydd am eu hystyried. 

 

34.     Mae amserlenni tyn iawn yn nodweddiadol o’r broses; caiff deddfwrfeydd yr Aelod-wladwriaethau wyth wythnos i ymateb i’r hysbysiad o gynigion deddfwriaethol. Oherwydd bod yn rhaid i’r Tŷperthnasol gytuno ar unrhyw bryderon a gaiff eu codi drwy Farn Resymedig ar ôl i’r pwyllgor eu trafod - a bydd sylwadau gan ddeddfwriaethau datganoledig yn goleuo’r drafodaeth hon  - mae’r cyfnod sydd ar gael ar gyfer ystyriaeth gan y Cynulliad yn fyrrach o lawer nag wyth wythnos.

 

35.     Yn ffodus, nid yw materion o bryder o dan y mater cyfyngedig o sybsidiaredd yn codi’n aml iawn, ond mae’n rhaid bod gan y Pwyllgor y gallu i ymateb yn gyflym i gynigion wrth iddynt godi. Caiff papur mwy manwl ei baratoi i’r Pwyllgor ar sybsidiaredd.

 

 

Argymhelliad

 

36.     Gwahoddir y Pwyllgor i nodi cynnwys y papur hwn a:

 

·         nodi a yw’n fodlon, ar hyn o bryd, â’r trefniadau gweithio ar gyfer is-ddeddfwriaeth a amlinellwyd ym mharagraffau 10 i 16;

·         ystyried a yw am ddirprwyo ei swyddogaethau o dan Reol Sefydlog 21.8 i Gadeirydd y Pwyllgor am wythnosau pan nad yw’r Cynulliad yn eistedd;

·         ystyried ei ddull cyffredinol o graffu ar bwerau is-ddeddfwriaeth arfaethedig ym Miliau’r Cynulliad a Biliau’r DU; a

·         ystyried dull o drafod materion deddfwriaethol cyffredinol, gan gynnwys materion posibl y gellid cynnal ymchwiliad mewn perthynas â hwy.

 

 

Steve George

Clerc y Pwyllgor
RHEOL SEFYDLOG 21 – Pwyllgor neu Bwyllgorau Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

21.1 Wrth gynnig cylchoedd gorchwyl pwyllgorau o dan Reol Sefydlog 16.2 neu 16.3, rhaid i’r Pwyllgor Busnes sicrhau bod y cyfrifoldeb dros y

swyddogaethau a ragnodir yn Rheol Sefydlog 21 yn cael ei aseinio i

bwyllgor neu bwyllgorau (y cyfeirir ato neu atynt yn Rheol Sefydlog 21 fel

“pwyllgor cyfrifol”).

 

Swyddogaethau

 

21.2 Rhaid i bwyllgor cyfrifol ystyried pob offeryn statudol neu offeryn statudol drafft y mae unrhyw ddeddfiad yn ei gwneud yn ofynnol iddo gael ei osod gerbron y Cynulliad a chyflwyno adroddiad ar a ddylai’r Cynulliad roi sylw arbennig i'r offeryn neu’r drafft ar unrhyw un o'r seiliau canlynol:

 

(i) ei bod yn ymddangos bod amheuaeth a yw intra vires;

(ii) ei bod yn ymddangos ei fod yn gwneud defnydd anarferol neu

annisgwyl ar y pwerau a roddwyd gan y deddfiad y mae wedi’i

wneud neu y mae i'w wneud odano;

(iii) bod y deddfiad sy'n rhoi'r pŵer i’w wneud yn cynnwys

darpariaethau penodol sy'n ei eithrio rhag cael ei herio yn y

llysoedd;

(iv) ei bod yn ymddangos bod iddo effaith ôl-weithredol lle nad yw'r

deddfiad sy’n ei awdurdodi yn rhoi awdurdod pendant ar gyfer

hyn;

(v) bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am

unrhyw reswm penodol;

(vi) ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio'r offeryn neu’r drafft

yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol;

(vii) ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr testun

Cymraeg a thestun Saesneg yr offeryn neu’r drafft;

(viii) bod yr offeryn neu’r drafft yn defnyddio iaith ryw-benodol;

(ix) nad yw wedi’i wneud neu i’w wneud yn Gymraeg ac yn Saesneg;

(x) ei bod yn ymddangos bod oedi na ellir ei gyfiawnhau wedi bod

wrth ei gyhoeddi neu wrth ei osod gerbron y Cynulliad; neu

(xi) ei bod yn ymddangos bod oedi na ellir ei gyfiawnhau wedi bod

wrth anfon hysbysiad o dan adran 4(1) o Ddeddf Offerynnau

Statudol 1946, (fel y’i haddaswyd).

 

21.3 Caiff pwyllgor cyfrifol ystyried a chyflwyno adroddiad ar a ddylai’r Cynulliad roi sylw arbennig i unrhyw offeryn statudol neu offeryn statudol drafft y mae unrhyw ddeddfiad yn ei gwneud yn ofynnol iddo gael ei osod gerbron y Cynulliad ar unrhyw un o’r seiliau canlynol:

 

(i) ei fod yn codi tâl ar Gronfa Gyfunol Cymru neu ei fod yn

cynnwys darpariaethau sy’n ei gwneud yn ofynnol i daliadau

gael eu gwneud i’r Gronfa honno neu i unrhyw ran o’r

llywodraeth neu i unrhyw awdurdod lleol neu gyhoeddus yn

gydnabyddiaeth am unrhyw drwydded neu gydsyniad neu am

unrhyw wasanaethau sydd i’w rhoi, neu ei fod yn rhagnodi swm

unrhyw dâl neu daliad o’r fath;

(ii) ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn

codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb

i’r Cynulliad;

(iii) ei fod yn amhriodol oherwydd newid yn yr amgylchiadau ers i’r

deddfiad y mae wedi’i wneud neu y mae i’w wneud odano gael

ei basio neu ei wneud ei hun;

(iv) ei fod yn rhoi deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd ar waith yn

amhriodol; neu

(v) nad yw’n gwireddu ei amcanion polisi yn berffaith.

 

21.4 Rhaid i bwyllgor cyfrifol gyflwyno unrhyw adroddiad o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 mewn perthynas ag unrhyw offeryn statudol neu offeryn statudol drafft heb fod yn fwy nag 20 diwrnod ar ôl i’r offeryn neu’r drafft gael ei osod.

 

21.5 Wrth gyfrifo unrhyw gyfnod o ddyddiau at ddibenion Rheol Sefydlog 21.4, rhaid peidio â chymryd i ystyriaeth unrhyw amser pryd y bydd y Cynulliad wedi’i ddiddymu neu ar doriad am fwy na 4 diwrnod.

 

21.6 Nid yw Rheolau Sefydlog 21.2 a 21.3 yn gymwys i Orchmynion

Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig na drafft o dan Reol Sefydlog 25

nac i is-ddeddfwriaeth sy’n ddarostyngedig i Weithdrefn Cynulliad Arbennig

o dan Reol Sefydlog 28.

 

21.7 Caiff pwyllgor cyfrifol ystyried y canlynol a chyflwyno adroddiadau arnynt:

 

(i) unrhyw is-ddeddfwriaeth arall a osodir gerbron y Cynulliad ac

eithrio is-ddeddfwriaeth sy’n ddarostyngedig i Weithdrefn

Cynulliad Arbennig o dan Reol Sefydlog 28;

(ii) pa mor briodol yw darpariaethau mewn Mesurau Cynulliad

arfaethedig ac mewn Biliau ar gyfer Deddfau Senedd y Deyrnas

Unedig sy’n rhoi pwerau i wneud is-ddeddfwriaeth i

Weinidogion Cymru, Prif Weinidog Cymru neu’r Cwnsler

Cyffredinol;

(iii) canlyniadau gorchmynion drafft o dan Ran 1 o Ddeddf Diwygio

Deddfwriaeth a Rheoliadau 2006 ar gyfer deddfwriaeth sy’n

ddarostyngedig i ystyriaeth yn y Cynulliad;

(iv) defnydd Gweinidogion Cymru ar bwerau cychwyn;

(v) unrhyw fater deddfwriaethol gyffredinol ei natur sy’n ymwneud

â chymhwysedd y Cynulliad neu gymhwysedd Gweinidogion

Cymru; neu

(vi) deddfwriaeth ddrafft sy’n destun ymgynghoriad.

 

21.8 Caiff pwyllgor cyfrifol ystyried deddfwriaeth ddrafft yr Undeb Ewropeaidd sy’n ymwneud â materion o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad neu â swyddogaethau Gweinidogion Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol er mwyn ystyried a yw’n cydymffurfio ag egwyddor sybsidiaredd.

 

21.9 Os bydd pwyllgor cyfrifol yn credu nad yw deddfwriaeth ddrafft yr Undeb Ewropeaidd yn cydymffurfio ag egwyddor sybsidiaredd, caiff wneud

sylwadau ysgrifenedig, ar ran y Cynulliad, i bwyllgor perthnasol Tŷ’r

Cyffredin neu Dŷ’r Arglwyddi, a hynny er mwyn cynnwys y sylwadau hynny

mewn resymedig i’w chyflwyno gan y pwyllgor hwnnw i awdurdodau

perthnasol yr Undeb Ewropeaidd.

 

21.10 Os bydd pwyllgor cyfrifol yn gwneud sylwadau ysgrifenedig yn unol â Rheol Sefydlog 21.9, rhaid iddo osod copi o’r sylwadau ysgrifenedig hynny

gerbron y Cynulliad.

 

21.11 Caiff pwyllgor cyfrifol, at ddiben galluogi arfer ei swyddogaethau o dan Reol Sefydlog 21.9 yn ystod unrhyw wythnos pan na fydd y Cynulliad yn

cwrdd, ddirprwyo’r swyddogaethau hynny i gadeirydd y pwyllgor cyfrifol, a

rhaid i’r cadeirydd hwnnw, os caiff y swyddogaethau hynny eu harfer,

hysbysu’r pwyllgor cyfrifol am y ffaith honno cyn gynted â phosibl.